Mae Virginia Crosbie, AS Ynys Môn yn dosbarthu taflen yn nodi sut gall trigolion gefnogi ymgyrch i gael mwy o ddiffibriliwyr ar Ynys Môn.
Canfu arolwg diweddar gan Virginia yr hoffai pobl leol gael mwy o’r offer hwn, sy’n achub bywydau, ar yr ynys ond mae’r ddarpariaeth yn fylchog.
Nid oes map canolog ychwaith sy’n dangos ble maen nhw.
“Cofiwch ddarllen y daflen fydd yn dod drwy’r drws yn yr ychydig wythnosau nesaf a chymryd rhan er mwyn helpu i wella argaeledd yr offer hwn sy’n achub bywydau”, meddai
Virginia.
“Ffordd wych i ddechrau’r ymgyrch fyddai pe bai pobl leol yn dweud wrthyf ble mae’r diffibriliwyr ar Ynys Môn er mwyn i mi allu gweithio gyda phrosiect Awyr Las sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w mapio.
“Rwyf hefyd yn awyddus i ddod o hyd i hyrwyddwyr cymunedol sy’n gweld yr angen am ddiffibriliwr yn eu hardal er mwyn i mi allu eu cefnogi gyda’r gwaith o godi arian i gynyddu’r nifer ar Ynys Môn.
“Yn ddiweddar, cyhoeddodd Menter Môn – sy’n gwmni gwych – raglen i roi 40 o ddiffibriliwyr newydd mewn cymunedau arfordirol ledled Gogledd Cymru, ac mae hyn yn newyddion gwych, ond beth am gynnal ein hymgyrch ein hunain yma ar yr ynys i wella’r sefyllfa.”
Diolchodd Virginia hefyd i W.O. Jones, yr argraffwyr yn Llangefni, am argraffu’r daflen ac i 2 Sisters Food Group yn Llangefni am dalu am hynny.
“Diolch i’r haelioni anhygoel hwn, nid yw’r trethdalwr wedi gorfod talu dim am argraffu nac am ddarparu’r daflen,” ychwanegodd.
Mae diffibriliwyr fel arfer mewn blychau lliwgar sydd wedi’u gosod y tu allan i siopau, canolfannau cymunedol ac adeiladau eraill.
Mae’r darnau hyn o offer cymorth cyntaf wedi’u cynllunio i gael eu defnyddio gan aelodau’r cyhoedd i ailgychwyn calon rhywun os ydynt wedi cael ataliad ar y galon.
Gall unrhyw un eu defnyddio ond rydym yn argymell bod pobl yn cael hyfforddiant. Mae Virginia hefyd yn gofyn i bobl gofrestru ar gyfer cwrs hyfforddi byr.